Изображения страниц
PDF
EPUB

i ladd ac i losgi, i ddyrchafu ac i ddarostwng, yn ol ei ddymuniad a'i fympwy personol. Ambell waith, mae'n wir, pan mewn rhyw gyfyngder neillduol, arferai y Czar alw ynghyd rai i gynnrychioli y Taleithiau Cyffredinol, rhywbeth yn debyg i'r dull a ddefnyddid flynyddoedd ar ol hyny gan Siarl I. yn y wlad hon; ond gwneid y rhai hyn drachefn i fyny o urddasolion eglwysig, yr abadau, a'r boyars, neu bendefigion y wlad.

Galwyd ynghyd ryw gynnadledd o'r fath hyn yn 1613, ar ddiwedd y rhyfeloedd cartrefol a ddilynodd farwolaeth Ivan IV. a gyfenwid Yr Ofnadwy, i'r dyben o ethol llinach newydd i'r orsedd. Syrthiodd y dewisiad ar Michael Románoff, mab Philater, Archesgob Rostoff, yr hwn, yn y llw brenhinol a gymerodd, a dynghedodd ei hun i beidio cyhoeddi rhyfel, nac ordeinio cyfreithiau, na gwneuthur cyfammod o heddwch neu ffurfio cynghrair ag unrhyw wlad, na dedfrydu person i farwolaeth, nac attafaelu ei eiddo, heb gydsyniad y Gynnadledd. Parhaodd y Gynnadledd hon i fodoli mewn ystyr ymgynghorawl am rai blynyddau; ond fel y cynnyddodd gallu Michael cynnyddodd ei chwant am awdurdod, nes ei arwain i ddinystrio Siarter 1613, ac i gyhoeddi un arall, yn yr hwn yr ordeiniwyd y Romanoff yn Czar ac yn Autocrat of All the Russias. Dybenodd eisteddiadau y Gynnadledd; sefydlwyd Unbenaeth; ac o dan egwyddorion unbenaethol y mae Rwssia wedi bod yn griddfan o hyny hyd yn awr.

Cyn dyddiau Pedr Fawr, y mae yn ymddangos mai nid bob amser yr oedd y werin mewn cyflwr hyd yn nod i wrthryfela. Cyfyngid yr anfoddogrwydd, neu yn hytrach y mynegiad o hono, i'r dosbarthiadau uchaf neu y boyars, a'r dosbarth milwrol neu y streltsi, y rhai yn eu cydymgais am ffafr y llys a ddeuent yn aml i gydgyfarfyddiad, yr hyn yn fynych a ddiweddai mewn tywallt gwaed. Y mae'n wir, er hyny, fod corff y bobl yn teimlo oddiwrth fradwriaethau eu huchafiaid, ac weithiau yn cymeryd mantais arnynt, fel yn nheyrnasiad y Czar Alexis, pryd yn yr olwg ar dlodi y wlad, annhrefn y Weinyddiaeth, a llygredd y swyddogaeth, y torodd eu hamynedd dros y terfynau. Codasant mewn gwrthryfel o dan lywyddiaeth Sténko Rázin, cymerasant Astrackhan, ymsefydlasant yn y parthau de-ddwyreiniol, rhoddasant eu meistriaid i'r cleddyf, a pharasant ddychryn hyd yn nod yn Moscow ei hun; ond cyn hir gorchfygwyd Sténko Rázin trwy dwyll, cymerwyd ef yn garcharor, cafodd ei ddienyddio, a syrthiodd achos Rhyddid i lawr. Parwyd llawer o anfoddlonrwydd oddeutu yr un adeg trwy gyfodiad Ymneillduaeth yn yr Eglwys Rwssiaidd. Yn cael ei gynhyrfu gan ysbryd diwygiadol, ymgymerodd y Patriarch Nikon â chywiro yr holl ffurfwasanaeth eglwysig, yn argraffedig ac ysgrifenedig. Ar ol cymhariaeth ofalus gyda llyfrau yr Eglwys Ddwyreiniol fel yr arferid hwy yn Constantinople, a chyda'r hen gopïau oedd i'w cael mewn llyfrgelloedd mynachaidd, pasiwyd penderfyniad gan y Cynghor Eglwysig, fod y llyfr newydd i gael ei dderbyn gan yr Eglwysi, a bod yr hen i gael ei losgi. Cododd hyn derfysg ymhlith y dosbarth mwyaf anwybodus o'r offeiriaid a'r werin, y rhai oedd yn anfoddlawn rhoddi i fyny ffurfiau a seremoniau eu tadau; y canlyniad fu gwrthryfel eglwysig a barhaodd am hir amser. Gwrthwynebodd y Raskolniks, neu yr Hen Gredinwyr, fel y gelwid pleidwyr yr hen drefn, hyd at farw; ac hyd y

dydd heddyw y mae y cwestiwn yn achos llawer o anghydfod gwleidyddol a chrefyddol. Amgylchiad arall a achosodd gythrwf oddeutu'r un adeg, ydoedd anfoddlonrwydd y Streltsi, yr hwn hefyd a ddiweddodd mewn gwrthryfel. Y Naryshkins oedd mewn awdurdod yn y wladwriaeth ar y pryd; rhoddwyd amryw o honynt i farwolaeth gan y gwrthryfelwyr, y rhai mewn canlyniad a gawsant lawer o freintiau. Ymhen peth amser dofwyd eu cynddaredd gan Sophia, chwaer yr Ymherawdwr Pedr, a buont yn ufudd wasanaethwyr i'r Llywodraeth Ymherodrol hyd ymddiswyddiad Sophia o'r Rhaglawiaeth, a rhoddiad pob awdurdod yn llaw Pedr a'i bleidwyr, y boyars. O hyny hyd ddiwedd ei deyrnasiad, y mae y Pedr, a elwir yn Fawr, yn llywodraethu gyda grym haiarnaidd yn ol yr egwyddor unbenaethol, gan gymhwyso yn ol ei fympwy y knout, y fflangell, yr arteithglwyd, a'r fwyell, er dysgyblu holl ddeiliaid cyndyn ei deyrnas o bob gradd a dosbarth, i'r ufudd-dod a weddai i weision Autocrat! Ar farwolaeth Pedr I. yn 1725, gwnaethpwyd rhyw ledymdrech gan un blaid yn y wladwriaeth i sicrhau cyfansoddiad gwleidyddol cyffelyb i'r un oedd yn llywodraethu Poland a gwledydd eraill; ond bu arddangosiad milwrol gan y guard Ymherodrol dan y Tywysog Mentchikoff yn ddigon i ddiffoddi yr ymgais ac i osod Catherine I. fel rheolydd unbenaethol ar yr orsedd. Drachefn, ar farwolaeth Pedr II., gwnaethpwyd ymgais gan ddau bendefig o deulu y Galitsyns a'r Dolgorukoffs i gyfyngu gallu ac awdurdod y Goron ; ond er iddynt lwyddo i roddi ammodau yn y cyfeiriad hwn ar yr Ymherodres Anna, torwyd hwy mor fuan ag y sicrhawyd ei gorseddfainc, a dedfrydwyd Volynski, un o aelodau y Cynghor, i golli ei dafod a'i law ddê am gymaint ag awgrymu yr angenrheidrwydd am ddiwygiad, a chosbwyd amryw o'i gyfeillion am feiddio gwrando arno.

Yr ydym yn awr wedi nesu ymlaen hyd at y can' mlynedd diweddaf, ond nid yw amgylchiadau y wlad nemawr dysgleiriach. Yn 1775, yr ydym yn cael y Count Panin, yr hwn fu am beth amser yn cynnrychioli Rwssia yn llys Sweden, gyda chynnorthwy Nathalie, gwraig yr Archdduc Paul, yn ffurfio cynllun Cyfansoddiadol, yn yr hwn y rhoddid hawliau y bobl yn llaw cynnrychiolwyr, ac un o amcanion pellach yr hwn ydoedd trefnu rhyddhâd y Serfs; ond bu Nathalie farw mewn modd ammheus, a syrthiodd y cynllun i'r llawr. Parhäodd Catherine II. a Paul I. i ddilyn llwybrau eu rhagflaenwyr; meddiennid yr olaf gymaint gan yr ysfa unbenaethol fel y dywedodd unwaith wrth ymwelydd o Ffrancwr, "Syr, nid oes boneddwr yn bod ond yr hwn y siaradwyf fi âg ef, ac ni pharhâ yn foneddwr ond cyhyd ag y byddwyf fi yn siarad." Terfynodd gwane autocrataidd yr Ymherawdwr Paul mewn gwallgofrwydd, ac o'r diwedd ac fe ddywedir, gyda chydsyniad ei fab ef ei hun-rhoddwyd ef i farwolaeth yn ei dŷ ei hunan. Cyn ei esgyniad i'r orsedd, addawodd y mab, sef Alexander I., roddi siarter i'r bobl, ac aeth mor bell ag awdurdodi un Speranski i dynu allan gynllun o hono; ond mor fuan ag yr amlygodd Speranski ychydig o ysbryd diwygiadol, syrthiodd anfoddlonrwydd ei feistr arno, ac anfonwyd ef i dreulio y gweddill o'i oes mewn alltudiaeth,-felly mae'n debyg i fyfyrio ar y ffolineb o roddi ymddiried mewn tywysogion.

Un o ganlyniadau mawrion y rhyfel a derfynodd yn ngorchfygiad Napoleon Fawr, ydoedd rhoddi goleuni i'r milwyr Rwssiaidd a gymer

[ocr errors]

odd ran ynddo, a thrwyddynt hwy i'r bobl yn gyffredinol, ar sefyllfa y werin mewn gwledydd eraill, yn enwedig yn Germany a Ffrainc, a thrwy hyny agor y ffordd i ddadblygiad syniad cliriach a chywirach am ryddid a chydraddoldeb. Yr ydym yn cael i'r teimlad hwn wneyd ei ymddangosiad yn y ffurf o lenyddiaeth gynhyrfiadol a chwyldroadol, ar yr hyn y cawn sylwi ymhellach ymlaen. Y mae'n wir nad oedd y teimlad hwn yn gallu cyrhaedd y dosbarthiadau isaf, oblegid nid oes creadur o ddyn mor druenus o dywyll ar wyneb y ddaear a'r Russian moujik. Gellir dyweyd am dano mewn aralleiriad o linell y Prif-fardd, Sufferance," and suffering, gellir ychwanegu "has been the badge of all his tribe;" ac nid ydys eto wedi cael ffordd i'w godi o'r sefyllfa y mae oesoedd o ddyoddef gormes wedi ei arwain iddi. O dan yr amgylchiadau hyn, ac yn ngwyneb y sicrwydd y byddai i unrhyw amlygiad cyhoeddus o syniadau chwyldröadol neu ddiwygiadol gael ei ddilyn gan alltudiaeth neu ddienyddiad, nid rhyfedd fe allai i'r rhai mwyaf blaenllaw yn yr achos ymffurfio yn gymdeithas ddirgelaidd, i'r dyben o gario eu cynlluniau allan mor ddiberygl ac effeithiol ag y byddai modd. Y mae yn debyg i'r syniad hwn wreiddio yn gyntaf yn meddyliau dau frawd, swyddogion yn y fyddin, o'r enw Mouravieff, y rhai a gymerasant atynt gyfaill o'r enw Pestel, ac o dan eu nawdd a'u cyfarwyddyd hwy y sefydlwyd Teilwng Gymdeithas Meibion y Fam-Wlad. Methodd hon gyrhaedd un math o nôd, o herwydd diffyg cydgordiad yn ei haelodau, ac fe allai na chlywsid am dani o gwbl oni bae iddi esgor ar bethau mwy; oblegid yn fuan sefydlwyd cymdeithas arall dan yr enw Cymdeithas Daioni Cyhoeddus, amcan yr hon ydoedd lledaenu egwyddorion cyfansoddiadol. Amcanai wneuthur hyny trwy fyrhâu gallu y Goron a'i roddi yn nwylaw y pendefigion, ond gadawai y bobl fel o'r blaen dan draed y tirfeddiannwyr, &c. Methodd hon drachefn yn benaf trwy fod Alexander yn dal, neu yn hytrach yn barod i ddal, syniadau Rhyddfrydol pan welai unrhyw berygl. Ymhellach na hyn, yr oedd yn perthyn i'r Gymdeithas yr hon oedd yn ddeublyg, neu yn ddwy adran, sef yr Ogleddol a'r Ddeheuol-rai aelodau oedd yn amcanu yn uwch na mesurau cyfansoddiadol o'r fath a nodwyd, a'r diwedd fu i ymwahaniad gymeryd lle, ac i'r dosbarth hwn, yn cael ei flaenori gan Pestel a Mouravieff, ffurfio cymdeithas newydd gyda rhyddhâd y Serfs fel ei harwyddair, a chydgyfranogiad tirol fel ei nôd. Yr oedd Pestel yn ddyn o alluoedd cryfion, ac fel hyn o dan ei gyfarwyddyd ef rhoddwyd cyfeiriad ac amcan i'r anfoddlonrwydd oedd yn llanw y wlad; trwy ei yni meddyliol, ei ddewrder, a'i barodrwydd i ddyoddef dros ei syniadau, ennillodd ddylanwad mawr, ac yn 1824 llwyddodd i raddau i uno adranau ei gymdeithas i'r amcan oedd ganddo mewn golwg, er iddynt, fel y dygwydda yn gyffredin yn Rwssia, fethu a chydweled gyda golwg ar y moddion i'w gyrhaedd. Penderfynwyd dwyn gwrthryfel oddiamgylch yn 1826; ond yn nechreu Rhagfyr, 1825, bu farw Alexander, ac achoswyd cyfnewidiad yn y cynllun. Yn ol gorchymyn yr Ymherawdwr cyn ei farwolaeth, newidiwyd yr olyniaeth o'r mab hynaf Constantine, i'w frawd Nicholas. Parodd hyn ansefydlogrwydd neillduol yn y Llywodr

* Enw neillduol a roddir ar yriedydd y sledge Rwssiaidd, ond a ddefnyddir mewn modd mwy cyffredinol am y dosbarth isaf o'r bobl.

C

aeth, yr hyn a dueddai i ffafrio amcanion y gwrthryfelwyr. O herwydd hyn penderfynwyd codi baner gwrthryfel yn St. Petersburg ar y 26ain o Ragfyr; yr oedd Pestel ar y pryd yn y Deheudir, ond o dan lywyddiad Trubetzkoi, Ryleieff, Obolenski, Kahoffski, ac eraill, cariwyd ymlaen y parotoadau yn egniol, er fod llawer o anghydwelediad, yn enwedig gyda golwg ar yr eithafion i ba rai y dylid myned. Amcanent ddychryn Nicholas nes peri iddo ymddiswyddo, yna cyhoeddi brenhiniaeth gyfansoddiadol, a ffurfio dau dŷ cynnrychioliadol, y rhai oedd i dynu allan gynllun y cyfansoddiad, ac i ethol brenin. Daeth boreu y chwyldroad o amgylch, a chydag ef gydgyfarfyddiad y gwrthryfelwyr â milwyr Nicholas, ac ar ol llawer o dywallt gwaed diweddodd y cythrwfl yn ngorchfygiad y blaenaf. Cymerodd ymgais arall le oddeutu yr un adeg o dan Pestel yn y Deheubarth, ond oddiar ddiffyg undeb rhwng y ddwy adran, terfynodd hwn drachefn mewn aflwyddiant; cafodd Pestel, Mouravieff, Ryleieff, a Kahoffski, eu dienyddio, ac anfonwyd y gweddill o'r gwrthryfelwyr i dreulio y gweddill o'u hoes yn Siberia, a chafodd Nicholas lonydd am dymmor i deyrnasu yn ol yr hen drefn unbenaethol.

Hyd yma, fel y gwelir, yr ydym wedi bod yn ymwneyd â chwyldroadau oedd yn amcanu gwella trefn y llywodraeth; ond yn ychwanegol at y rhai hyn, cymerodd amryw fradwriaethau le o natur fwy cymdeithasol, yn benaf mewn cysylltiad â'r Serfs neu y caethweision tirol. Un o'r cyntaf o'r rhai hyn, fel y crybwyllwyd yn barod, ydoedd y symudiad a gymerodd le dan Sténko Rázin yn 1670; ond er y llwyddiant am dymmor a ddilynodd ei ymdrechion, daeth gorchfygiad ar ei warthaf, a diweddodd y gwrthryfel, nid yn rhyddhâd y Serfs, ond yn nienyddiad dros un mil ar ddeg o honynt, heblaw can' mil arall a gyfarfyddodd â'u marwolaeth ar faes y frwydr. Can' mlynedd ar ol Rázin, cyfododd Pugatcheff, ac am ddwy flynedd achosodd fraw a dychryn i lywodraeth Catherine II. O dan ei faner ymunodd pob math o drueiniaid oedd yn dyoddef dan lymder caethiwed Rwssiaidd,-megys y gweision tirol, yr hen gredinwyr, y mwnwyr o'r gweithiau halen a metel, Pwyliaid alltudiedig, ac eraill; ac am amser, fel y sylwyd, yr oedd Pugatcheff a Rhyddid o fewn cyrhaedd gobaith goruchafiaeth; ond ar awr ddrwg cymerwyd ef yn garcharor gan Suwaroff a Panin, a dedfrydwyd ef i gael tori ei draed a'i ddwylaw, ac yna ei ddienyddio. Cymaint, modd bynag, oedd hoffder y bobl o hono, fel yr anghofiodd hyd yn nod y dienyddiwr ffurf y ddedfryd, a thorwyd ei ben yn gyntaf. Canlyniad y gwrthryfel hwn fu i ddeddf caethwasiaeth (serfdom) gael ei heangu trwy gymeryd i fewn y deheubarth, o ba le yr oedd y gwrthryfelwyr yn codi; ac fel hyn daeth bron holl boblogaeth Rwssia, oddigerth y pendefigion, i golli eu rhyddid personol,—yn gymaint felly fel pan y cyhoeddwyd eu rhyddhâd, y cafwyd fod dros ddwy ran o dair o holl drigolion Rwssia Ewropeaidd yn gaeth. Golygai hyn nid yn unig_fod eu gwasanaeth yn fforffetiedig i'w meistriaid, ond bod hyd yn nod eu personau a'u bywydau yn eiddo iddo. Yr oedd gan y meistr hawl bendant ar ei serf, can belled a gallu ei anfon i alltudiaeth oesol neu i'r crogbren am unrhyw drosedd, dychymygol neu weithredol.

Wrth geisio ymwneyd â chwestiwn y caethwasiaeth tirol, y mae Llywodraeth, neu yn hytrach Unbenaeth Rwssia, yn gorfod cyfarfod dau deimlad gwahanol, sef, y teimlad o ddymuniad i wrthweithio dylanwad

y gallu pendefigol trwy ryddhâu y caethion, a'r teimlad o ofn yn codi oddiar y posiblrwydd i'r caethion, os rhyddheid hwynt, fyned yn drech na'u rhyddhawr; a rhwng y ddau deimlad hyn y bu yr awdurdodau yn Rwssia yn petruso am flynyddau lawer. Yn nechreu y ganrif hon yr ydym yn cael gweision tirol y taleithiau gogledd-orllewinol yn cael eu codi i fod yn dir-amaethwyr eu hunain; ond yn y rhanau eraill o'r wlad nid oedd pethau nemawr gwell nag yn yr hen amser, ac nid oedd ond ychydig iawn o_wahaniaeth rhwng sefyllfa y serfs a'r anifeiliaid oedd dan eu gofal. Pan ddaeth Napoleon a'i luoedd i fygwth Moscow, gorfodwyd Alexander I. i ymdeimlo â sefyllfa ei bobl. Yn ngwyneb y perygl oedd yn ei fygwth, ymostyngodd i ofyn eu hewyllys da a'u cymhorth, yr hyn, er fe allai fod hyny yn rhyfedd, a roddwyd iddo yn ewyllysgar. Y canlyniad fu i Napoleon orfod encilio dan amgylchiadau a gofir tra pery y son am ryfel a rhyfelwyr, ac i filwyr Rwssia ei ddilyn tua'r gorllewin, lle y dysgasant, fel yr ydys eisoes wedi sylwi, syniadau newyddion am ryddid gwladol a chymdeithasol. Meddyliwyd fod appeliad yr Ymherawdwr at ei bobl, a'u hatebiad teyrngarol hwythau iddo, wedi agor ei lygaid a'i galon; rhoddodd rhyw gymaint o gefnogaeth i'r symudiad Rhyddfrydol, ac aeth mor bell ag appwyntio pwyllgorau i ymchwilio i sefyllfa y serfs; ond yn fuan hauwyd drwgdybiau yn ei fynwes,-ofnai am awdurdod ei orsedd a sicrwydd ei olyniaeth, a dychrynai rhag sefydliadau rhyddfrydol a allai brofi yn derfyn i'r gallu unbenaethol; a'r diwedd fu i'r cynllun cael ei roddi heibio. Wedi hyny cadwyd y serfs yn nyfnder caethiwed dan draed Nicholas, yr hwn ar ol gwrthryfel 1825 a gasâi Ryddid a Rhyddfrydwyr gyda chas angerddol, er y byddai, fel y gormeswr dauwynebog ag ydoedd, ar adegau, yn estyn ambell i fraint iddynt, i'r dyben o ddychrynu y pendefigion, gan ofalu modd bynag am ei thynu yn ol drachefn pan fyddai yr amcan oedd ganddo mewn golwg wrth ei rhoddi wedi ei gyrhaedd.

Nid oes a fynom ni yn y fan hon â'r amgylchiadau a arweiniodd i ryfel y Crimea, nac ychwaith â chwrs y rhyfel; ond y mae ei ganlyniadau i Rwssia yn cyffwrdd yn agos â thestun ein hysgrif. Fel y mae yn wybyddus i bob darllenydd, terfynodd y rhyfel hwnw yn ngorchfygiad Nicholas a'i luoedd trwy uniad Galluoedd yn cael eu blaenori gan y Gallu mwyaf gwerinol yn Ewrop. Effaith naturiol y gorchfygiad ydoedd agor llygaid y Rwssiaid i ddiffygion llywodraeth unbenaethol, ac i fanteision a rhagorfreintiau llywodraethau mwy rhyddfrydol. Clywid swn murmur trwy'r holl wlad, ac yn nghanol anfoddlonrwydd ac ansicrwydd gwladol o'r fath ddyfnaf, bu farw yr Ymherawdwr Nicholas. Dilynwyd ef ar orsedd Rwssia gan Alexander II., enw yr hwn a saif allan fel un o'r rhai mwyaf nodedig yn hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Croesawyd ei esgyniad i'r orsedd fel gwawriad dyddiau gwell,-tybiwyd fod Rhyddid yn ymyl; ac am yspaid, ymddangosai fel pe cawsai y dybiaeth ei chwbl wirio. Rhyddhawyd y serfs, a gwnaethpwyd llawer o honynt yn dirfeddiannwyr. Symudwyd y rhwystrau oedd yn gwarafun ymdrafodaeth â gwledydd tramor trwy ostyngiad prisiau passports; dilewyd amryw ddulliau annynol o gosbi troseddwyr gwladol; sefydlwyd y Zemtsvos, neu fyrddau cynnrychioliadol, i drin materion lleol; diwygiwyd yr athrofeydd a'r ysgolion; cyhoeddwyd gollyngdod (amnesty), trwy yr hwn y rhyddhawyd llawer o

« ПредыдущаяПродолжить »